Owain
Gwynedd
Darlledwr a Chynhyrchydd
amdanaf!
Mae Owain yn gyflwynydd, gohebydd a chynhyrchydd teledu cyfeillgar, gweithgar a brwdfrydig.
Byddwch wedi gweld yr 'hogyn Port', sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn cyflwyno ac yn adrodd ar ystod eang o ddigwyddiadau chwaraeon ac adloniant. O Gyfres Genhedloedd yr Hydref Amazon Prime Video, y Bencampwriaeth Rygbi Premier Sports United i soffa rhaglen gylchgrawn flaenllaw S4C, Heno.
Yn ddiweddar mae Owain wedi bod yn sylwebu ar chwaraeon amrywiol o rygbi Uwch Gynghrair Indigo Prem Cymru i hoci Cymru ar S4C.
Wrth weithio i BBC Radio Cymru/Wales a rhaglen Clwb S4C yn y gorffennol, mae gan Owain brofiad o gyfweld ag athletwyr o ystod eang o chwaraeon a chefndiroedd, megis Athletau, Pêl-droed, Beicio, campau Olympaidd a Chriced.
Mae gan cyn fyfyriwr y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd y cymhelliant a'r creadigrwydd i ddatblygu a chynhyrchu ei raglenni ei hun. O ddarllediadau uchafbwyntiau o gystadleuaeth dyn cryf Cymru i raglen ddogfen fer ar ymgais unigolion i ddod yn ferched cryfaf Cymru a sut y bu i'r gamp ei helpu trwy gyfnod tywyll - Cryfder: Sioned Halpin, S4C.
Yn 2018 sefydlodd gwmni rheoli digwyddiadau sy’n trefnu digwyddiadau lletygarwch elusennol. Mae wedi trefnu nosweithiau gyda rhai o hoff bersonoliaethau rygbi'r byd, Sam Warburton, Warren Gatland a Shane Williams i enwi dim ond rhai.